Wythnosau Celf Ynys Môn 2009 - Stiwdios Agored ac Orielau

Cyflwynwyd gan Heather ar 24 Ionawr, 2009 - 5:48yh.
24 Ion 2009 - 6:00yh
Etc/GMT+1
Croeso i’n chweched o’n Wythnosau Celf Ynys Môn sydd bellach wedi sefydlu’u hunain fel digwyddiadau pwysig yng nghalendr yr ynys. Yn 2008 fe wnaethon ni gynnal Wythnosau’r Celfyddydau Perfformio ym mis Hydref yn dilyn ein Stiwdios Agored ac Orielau’n gynharach yn y flwyddyn. Mae’r fformat hwn yn parhau yn 2009 gan ddod â chymysgedd amrywiol o ddigwyddiadau celf a pherfformio at ei gilydd. Yn ystod yr wythnosau Stiwdios Agored ac Orielau, 4-19 Ebrill 2009, bydd peintwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, artistiaid gosodiadau a gweithwyr crefft yn agor eu stiwdios i ymwelwyr. Bydd digonedd o ddewis ar eich cyfer – yn gardiau a phrintiau a gweithiau celf gwreiddiol i’w prynu, ac yn arddangosiadau o artistiaid ar waith ac arddangosfeydd o gelfyddyd gyfoes i’w gweld. Mae lleoliadau’n cynnwys stiwdios, capeli, ysguboriau, siediau, orielau a chartrefi’r artistiaid. Bydd gennych gyfle i gyfarfod a siarad gyda’r artist, yn aml dros baned o de, a chael cipolwg unigryw o’r broses artistig. Os oes gennych ddiddordeb yn yr Wythnosau Celfyddydau Perfformio, 17 Hydref i 1 Tachwedd 2009, cewch flas o’r hyn sydd i ddod ar dudalen 2. Bydd ychwanegiadau a newidiadau anochel i’r llawlyfr yn cael eu postio i: www.fforwmgelfynysmon.org neu ffoniwch Canolfan Ucheldre (01407) 763361. Rydym yn croesawu adborth naill ai trwy ffurflenni yn y lleoliadau neu ar ein gwefan.